Stocktaking
Hospitality
Detailed and accurate reporting to protect profits and grow your business.
BETH RYDYM YN EI WNEUD
Er 1992 mae Roslyns wedi bod yn darparu gwasanaeth cyfrif stoc o'r radd flaenaf i bob math o fusnesau lletygarwch. Rydym yn gweithredu ledled y DU ac yn cyflogi pob un o'n tîm yn uniongyrchol. Mae hyn yn caniatáu inni ddarparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol i bob sefydliad o fusnesau bach neu gwestai mawr.
Tafarndai, bariau a chlybiau
Mae ein stocwyr profiadol yn gofalu am bob math a maint o dafarndai a bariau.
Rydym yn helpu i nodi gwastraff, lladrad, gor-stocio, ymarferion busnes gwael. Daw ein cywirdeb a'n manylion gyda chynlluniau gweithredu. Cewch eich canlyniad ar ddiwrnod yr ymweliad, ac mae pob ymweliad yn gorffen gyda chyfarfod i drafod y canlyniad ac ein cyngor.
Bwytai
Yn ychwanegol i archwilio diodydd, rydym yn archwilio stociau bwyd hefyd.
Yn wahanol i rai archwilwyr llai manwl, nid yw cyfrifwyr stoc Roslyns yn amcangyfrif y stoc yn eich oergelloedd. Rydyn ni'n cyfrif pob eitem. Rydym yn deall nad yw pob stêc yr un gwerth!
Byddai eich archwilydd stoc yn gwirio prisiau eitemau allweddol i roi gwybod i chi os yw cyflenwyr wedi cynyddu eich prisiau.
Siopau coffi a Chaffis
Mae angen gwasanaethau stoc proffesiynol ar siopau coffi a chaffis o bob maint hefyd.
Boed yn siop fychan, neu'n gadwyn o fasnachfreintiau, rydym wedi eu helpu i gyd.
Safleoedd lluosog, cwmnïau tafarndai, gwestai a grwpiau hamdden
Mae Roslyns yn darparu gwasanaethau archwilio stoc o dan gontractau i nifer o gwmnïau mawr ledled y wlad. Rydym yn cynnig lefel uchel o gywirdeb ac adroddiadau manwl. Rydym yn addasu ein hadroddiadau ar gyfer eich sefydliad gan ganolbwyntio ar y DPA sydd bwysicaf i chi a'ch timau rheoli. Mae Roslyns yn cynnig ystod o fuddion heb dâl ychwanegol.
​
-
Canlyniadau ar y diwrnod
-
Cynlluniau gweithredu gyda phob canlyniad
-
Adrodd wedi'i addasu i chi
-
Opsiynau amledd hyblyg
-
Dyddiadau hyblyg
-
Dim ffi canslo y tu hwnt i 48 awr